Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Caffi Dros Dro ‘Pot Luck’

Yn rhedeg ochr yn ochr â’r digwyddiad Lab Agored a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 19 Medi 2015, 10am i 5pm, bu i Trawsffurfio Hwlffordd roi cyfle ar gaffi dros dro mentro’ch siawns, yn darparu prydau poeth llysieuol blasus gan ddefnyddio’r ffrwythau a’r llysiau roedd pobl wedi dod i mewn o’r gerddi.

Gwahoddwyd gwesteion i ddod ag unrhyw ffrwythau neu lysiau ffres roedden nhw’n gallu ei sbario cyn gynted â phosibl ar y diwrnod, a dod yn ôl i flasu’r canlyniadau rhwng 12 hanner dydd a 4pm. Roedd y caffi hefyd yn gweinio te, coffi a chacennau cartref dymunol.

Bwriad y diwrnod oedd mwynhau’r cynnyrch hyfryd sydd ar gael yn lleol, ac i amlygu gwaith Trawsffurfio Hwlffordd fel grŵp cymunedol sy’n gweithio tuag at fyw’n gynaliadwy, gydag effaith isel.

Roedd hefyd yn gyfle arbennig i unrhyw un oedd â diddordeb yn Trawsffurfio Hwlffordd i ddod heibio i ddysgu mwy am yr holl ddigwyddiadau cyffrous sy’n digwydd yn y Lab a gerllaw.

Cafodd ‘Pot Luck’ ei redeg yn llwyr gan wirfoddolwyr a gofynnwyd i bobl gyfrannu swm roedden nhw’n feddwl oedd yn rhesymol am eu bwyd a’u diod. Roedden ni’n siŵr y byddai’n cwsmeriaid yn ddigon hael i dalu am y costau rhedeg – a byddai unrhyw elw yn mynd yn ôl i brosiectau cymunedol Trawsffurfio Hwlffordd.

Delwedd: spacetocreate – manylion o Weithdy Diwrnod Addysg Gŵyl Fwyd Arberth

 

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…