Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Y Map MAWR – adolygiad agored

Delwedd: Aelodau o gymuned fasnachol a chymuned fusnes Hwlffordd yn gweithio ar y map mawr yn ystod gweithdy Masnachwyr y Map Mawr yn ddiweddar.

Yn ystod mis Medi a Hydref 2015, cynhaliodd y Lab gyfres o weithdai agored a gweithdai wedi’u targedu i edrych ar ganol tref Hwlffordd/glan yr afon, a chyfrannu tuag at weledigaeth ar gyfer ei ddyfodol. Bwriad y gweithdai Map Mawr oedd annog cyfranogiad gweithredol ar draws nifer o grwpiau, ochr yn ochr â phroses gynllunio fawr sy’n cael ei hymgymryd gan yr ymgynghorwyr cynllunio trefol, Nathaniel Lichfield ar ran Cyngor Sir Penfro.

Bydd y data a’r adborth a gynhyrchwyd yn y gweithdai, ar ffurf troshaenau map, brasluniau ac ymatebion ysgrifenedig yn cael eu hanfon i ymgynghorwyr y Cyngor yn ystod y cyfnod ymgynghori, tra bod y gweithdai yn rhoi cyfle i grwpiau lleol ac unigolion â diddordeb brofi syniadau, a chyfle i archwilio gweledigaeth ar y cyd o ran dyfodol y dref.

Roedd dau o’r gweithdai ar agor i bawb ar sail galw heibio:

Dydd Sadwrn 5 Medi 2-4.30pm ‘Yn ôl i’r dyfodol’ gyda Trawsffurfio Hwlffordd.

Dydd Gwener 25 Medi ‘Adolygiad Agored’ 2 -5pm, roedd hwn yn gyfle i aelodau o’r cyhoedd a chyfranogwyr grwpiau ymuno ac adolygu’r syniadau a’r awgrymiadau oedd wedi’u cynnig hyd yma gyda Sarah Goy, uwch gynllunydd trefol gyda Nathaniel Lichfield.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…