Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Ynglŷn â

Mae ‘Y Lab Hwlffordd’ yn fenter gan Confluence, cydweithrediad creadigol rhwng PLANED , spacetocreate , iDeA Architects , Cyngor Sir Penfro a Transition Hwlffordd , sy’n anelu at ddyfeisio a phrofi ffyrdd newydd a dychmygus o weithio yn Hwlffordd a fydd yn dod â’r gymuned ynghyd i ysbrydoli a llunio’r broses o gynllunio, dylunio ac adfywio trefol.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Penfro, bydd Confluence yn trefnu cyfres o brosiectau arbrofol a chreadigol, gan ddod â rhanddeiliaid ynghyd mewn ffyrdd newydd, wedi’u hysbrydoli gan arfer enghreifftiol yn y celfyddydau a dylunio trefol, cynllunio ac adfywio, gyda’r nod o ailddychmygu’r dref a:

  • datblygu modelau arloesol o gydweithio
  • ymgysylltu’r gymuned yn greadigol â chyfleoedd adfywio sy’n gysylltiedig â’r afon
  • helpu pobl i feddwl yn wahanol am Hwlffordd
  • ysgogi newid yn arferion unigol a chyfunol y partneriaid dan sylw.

Gwyliwch gyflwyniad i The Lab gan y gwneuthurwr ffilmiau Sharron Harris.

I ddilyn y stori hyd yn hyn, edrychwch ar y llinell amser sy’n dogfennu digwyddiadau’n gronolegol o gyhoeddiad Syniadau: Pobl: Lleoedd, hyd at y presennol.

Dysgwch fwy am fenter strategol Cyngor Celfyddydau Cymru, Syniadau: Pobl: Lleoedd, a’r chwe phrosiect celfyddydau ac adfywio arall yng Nghymru yma.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…