Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Y stori hyd yma

Creu: Cymunedau: Cyfoes.
Mae Cydlifiad yn un o saith o brosiectau ar draws Cymru sy’n cael ei gefnogi drwy Creu Cymunedau Cyfoes, menter strategol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Amcanion cyffredinol y fenter yw:

  • Ymgorffori’r celfyddydau mewn ffordd ddidwyll ac ystyrlon mewn nifer bychan o brosiectau adfywio arloesol, uchelgeisiol a dychmygol.
  • Archwilio ffyrdd newydd o weithio sy’n cynhyrchu cydweithio ar draws y sector, profi syniadau a phartneriaethau newydd ac ysbrydoli cymunedau i ail-ddychmygu eu hamgylchedd mewn ffordd greadigol ac ymrymusedig.
  • Arbrofi gyda modelau newydd o adfywio a chydweithio trwy’r celfyddydau.
  • Hyrwyddo ansawdd wrth gynllunio a gweithredu’r prosiectau.

Tra bod yna amryw o enghreifftiau adnabyddus o’r celfyddydau yn cyfrannu at adfywiad mewn dinasoedd, mae’r cyfraniad maent yn ei wneud mewn trefi yn llawer llai hysbys. Trwy raglen arbrofol o enw’r Lab, sydd wedi’i chysylltu â chyfres o gomisiynau artistiaid, mae’r prosiect Cydlifiad yn anelu i ddatblygu model ar gyfer adfywiad wedi’i arwain gan y celfyddydau mewn trefi bach yng Nghymru.

I ddilyn y stori hyd yma edrychwch ar y llinell amser sy’n cofnodi’r digwyddiadau yn nhrefn amser o gyhoeddi Creu Cymunedau Cyfoes hyd heddiw.

Mae fframwaith gwerthuso wedi’i ddatblygu gyda PRAXIS cwmni ymgynghori lleol wedi’i wreiddio yn y rhaglen Cydlifiad. Mae pedwar prif faes wedi cael eu hadnabod i fesur cynnydd tuag at y canlyniad a ddymunir sef datblygu model ar gyfer adfywiad wedi’i arwain gan y celfyddydau mewn trefi bach yng Nghymru:

  1. Newid canfyddiad pobl o Hwlffordd
  2. Y nifer o bobl sy’n ymgysylltu â’r rhaglen ac yn rhoi adborth cadarnhaol
  3. Cynyddu dealltwriaeth pobl o beth all y celfyddydau ei gynnig
  4. Cefnogaeth ac ymrwymiad y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol ar gyfer y celfyddydau ac adfywio.

To follow the story chronologically, view the timeline which documents the project from the announcement of Ideas: People: Places, through to the present day.

Creu llinell sylfaen i fesur newid
Yn ystod y cyfnod peilot a thrwy gydol y flwyddyn gyntaf gwahoddwyd pobl i fynegi eu barn mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn creu llinell sylfaen i fesur y newid dros amser. Dangosodd y llinell sylfaen, er bod yna lawer o bethau roedd pobl yn eu gwerthfawrogi am y dref, yn gyffredin â nifer o drefi eraill ar draws y Deyrnas Unedig, roedd pobl yn teimlo bod Hwlffordd wedi dioddef o ddirywiad hirdymor oherwydd:

  • Newid mewn arferion siopa – mwy o bobl yn siopa ar-lein ac mewn siopau mawr ar gyrion y dref
  • Trethi busnes uchel yn arwain at orddibyniaeth ar siopau elusen
  • Diffyg buddsoddi, dealltwriaeth o a diddordeb yn y celfyddydau
  • Penderfyniadau cynllunio gwael a diffyg gweledigaeth cydlynol ar gyfer y dyfodol
  • Diffyg cyfleoedd i ymgysylltu yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu dadrymuso
  • Newid yn yr economi wledig yn cael effaith negyddol ar y dref.

Wedi’i ysbrydoli gan lwyddiannau diweddar megis y parc sglefrio a Hwlffordd mae yna hefyd dystiolaeth bod pethau yn dechrau newid…

Mae Adroddiad Cam 1 Cydlifiad – crynodeb o’r prosiect peilot o 2014 yn hysbysu’r astudiaeth llinell sylfaen ynghyd ag amrywiaeth o ddeunyddiau ychwanegol a gasglwyd yn ystod blwyddyn 1, gellir gweld y rhain yma.

934161_10153781964280928_6407791564505824091_n

Newid canfyddiadau
Ers ei lansio ym mis Mai 2015, mae yna dros 1,500 o ymweliadau wedi bod i’r Lab a digwyddiadau cysylltiedig. Mae’r hyn mae pobl yn feddwl ac yn ei deimlo ynghylch lle a sut mae hynny’n cael ei gyfathrebu yn y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol yn ganolog i newid canfyddiadau. Mae’r casgliad hwn o bostiadau yn cofnodi’r gweithgareddau ac yn dangos sut mae barn pobl am Hwlffordd yn newid o bosib.

Adborth ar y rhaglen
Yn y flwyddyn gyntaf cynhaliwyd dros 30 o wahanol weithgareddau a ble bynnag y bo’n bosib gwahoddwyd y cyfranogwyr i roi adborth, a oedd yn hynod gadarnhaol ac adeiladol. Gweler detholiad o’r gweithgareddau a’r adborth a gafwyd yma.

Beth all y celfyddydau ei gynnig
Mewn cymuned ddaearyddol anghysbell a gwledig ynysig, gall profiad pobl o ymarfer celfyddydol cyfoes sy’n cynnwys y gymdeithas fod yn gyfyngedig iawn. Nod blwyddyn gyntaf y rhaglen oedd amlygu ymarfer rhagorol o fewn y sir yn ogystal â darparu cyfleoedd i ymgysylltu ag artistiaid o ar draws y Deyrnas Unedig. Rhoddodd rhaglen o seminarau a sgyrsiau gan artistiaid hefyd lwyfan i artistiaid i rannu eu diddordebau a’u harferion gweithio amrywiol. Gweler detholiad o’r gwaith a’r adborth ynghylch sut mae hyn wedi newid dealltwriaeth pobl o’r hyn y gall y celfyddydau ei gynnig yma.

Support for art and regeneration
For the programme to succeed in the long-run it needs support from key decision makers. See a selection of event and activity reports aimed at building support for the role of arts and regeneration here

Stories of change
As the project draws to the end of this current phase, Karen Scott from Confluence partner PLANED, talked to seven stakeholders who have engaged with the partnership in different ways and at different levels, to find out what they think the most significant changes have been. Find out more about them and their stories of change here

Adroddiad Blynyddol
Yn flynyddol, bydd cerdyn adrodd yn cael ei gynhyrchu i ddadansoddi beth sydd wedi cael ei wneud, pa mor dda y cafodd ei wneud ac oes yna rywun wedi elwa o ganlyniad? Bydd y cardiau adrodd ar gael i’w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Gweld Blwyddyn 1 cerdyn yr adroddiad yma

Gweld Blwyddyn 2 cerdyn yr adroddiad yma

Gweld Blwyddyn 2 cerdyn yr adroddiad yma

Online questionnaire
Working with the help of Analytical Volunteers from the Office for National Statistics an online questionnaire was devised and disseminated in April 2018. More than 100 responses were received and the full report can be seen here

Project report
On 30 June 2018 the project offocially came to an end with an event to celebrate the installation of Cleddau Reaches, a new public artwork on the river. A report of the 3 year project can be viewed as a download here

Delwedd: Llun o’r afon gan Jack Wheatley

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…