Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Y LAB yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol

Ers i ni lansio ym mis Mai 2015 rydym wedi cael dros 1500 o ymweliadau i’r Lab a phresenoldeb yn ein digwyddiadau. Ond beth oedd gan bobl Hwlffordd, Sir Benfro a’r Deyrnas Unedig i’w ddweud yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol? Gosododd y cyfryngau lleol a chenedlaethol waelodlin heriol mewn print ac ar y radio:

Darparodd darn Sarah Moore ar BBC Radio Wales lwyfan ar gyfer ystod o safbwyntiau ac ymatebion yn dilyn gwobrwyo arian ar gyfer Confluence, drwy fenter strategol Gyngor Celfyddydau Cymru, Syniadau: Pobl: Lleoedd.

Credaf ei fod yn hollol ddibwrpas, lol hipïaidd.

– David Jones yn y Western Telegraph

Wrth i’r prosiect fagu momentwm mae ymateb y wasg leol a chenedlaethol wedi bod yn fwy cadarnhaol i’r digwyddiadau rydym wedi’u cynnal, gan rannu gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau sydd i ddod a hyrwyddo ein ceisiadau am gomisiynau artistiaid ledled y wlad:

Ni allaf gredu faint o bobl ddaeth. Nid wyf yn meddwl fy mod erioed wedi gweld rhywbeth mor hardd â hyn o’r blaen. Roedd fy mhlant wedi gwirioni eu bod yn cario llusernau roeddent wedi’u gwneud eu hunain. Yn bendant roedd hon yn noson  wnawn ni ei chofio am byth.

– Sandy King yn y Western Telegraph

Gan fod momentwm y prosiect wedi tyfu, mae’r digwyddiadau a gynlluniwyd i feithrin cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau ac adfywio, fel ein seminarau Lle Agored  a Mannau Hanfodol  wedi cael ymateb lawn mor gadarnhaol ar-lein, gyda phobl leol yn ymrwymo eu hunain i wneud newidiadau er gwell yn Hwlffordd.

Ar hyn o bryd mae gan ein grŵp Facebook  625 o aelodau (mae ein dilynwyr Twitter bellach yn 154), ac wrth i’r prosiect dyfu felly mae syniadau pobl ar gyfer y dref. Mae aelodau ein cymuned ar-lein yn rhannu eu hysbrydoliaeth ynglŷn â phrosiectau adfywio creadigol o drefi a dinasoedd ledled y byd yn rheolaidd, gan dynnu sylw at y potensial creadigol ar gyfer ein tref ni, ac archwilio dulliau gwahanol o wneud celf ac ymateb i’r hyn sydd o’n cwmpas.

 

 

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…