Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Sgwrs Artist: ‘Porthmon Sir Benfro’ Karen Ingham

Ar Ebrill 20 2016 cyflwynodd Karen Ingham y cyntaf yn ein cyfres o Sgyrsiau gan Artistiaid ar ei gwaith ar gyfer ein comisiwn diweddaraf: Porthmon Sir Benfro . Roedd y sgwrs hon yn gyfle i bobl ddod i weld sut mae’r prosiect yn datblygu, ynghyd ag ennill mewnwelediad i broses Karen a’r syniadau a’r cysyniadau am dirwedd Hwlffordd y mae hi’n edrych arno drwy’r ffilm.

Mae lle, perthyn, cymuned, hiraeth wedi’u gwreiddio yn enaid y bod dynol.

– Karen Ingham

Gan dynnu ar y syniad o palimpsest eglurodd Karen sut mae’r ffilm yn adlewyrchiad gysyniadol o dirwedd, yn hytrach na dogfennaeth lythrennol o ffyrdd a hanesion yr ardal. Eglurodd ansefydlogrwydd mapiau fel ‘trosiad am newid, esblygiad, cyflwyniad’, yn y ffordd maent yn newid yn gyson i adlewyrchu defnyddiau tir newydd, gan dynnu sylw at sut gallent effeithio’r ffordd a feddyliwn am drefi fel Hwlffordd.

Gan greu llun o sut mae ffigwr hanesyddol y porthmon yn parhau’n berthnasol yn y newid o borthmyn gwartheg i haid o dwristiaid heddiw, amlinellodd Karen y themâu a’r syniadau sydd wedi ymddangos ym Pembrokeshire Drover: Memory, inscription and place; History; States of mind; and Time and motion in the 21st century.

Dilynwyd sgwrs Karen gan sesiwn holi ac ateb, gyda chynulleidfa o arlunwyr a rhai nad ydynt yn arlunwyr. Roedd hanesion am orffennol Hwlffordd, ynghyd â gobeithio am y dyfodol:

Hyd yn oed fel un nad yw’n arlunydd, dois ar draws y ‘palimpsest’ yn gyntaf yn ysgrifau Hoskins (Making of English Landscapes – gwerth cael golwg)

Disgrifiwyd Hwlffordd fel ‘Dinas Osgoi’.

Cyflwyniad pleserus a llawn gwybodaeth. Yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau’r Haf hwn.

Roedd y cychod pleser ar Afon Cleddau y tu allan i’r Lab yn atgof annwyl o blentyndod.

Ar hyn o bryd, mae Karen yn ffilmio a golygu. Mae’n gobeithio dangos y cynnyrch gorffenedig fel rhan o Ŵyl Hwlffordd fis Mehefin. Yna bydd arddangosfa yn Oriel y Parc a llyfr cydymaith arlunydd a fydd ar gael yn Y Lab.

Gallwch ddilyn cynnydd Karen ar ei blog.

 

 

 

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…