Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Teledu Diemwnt Du

Comisiynwyd yr artist Serena Korda gan Confluence i greu gwaith celf cyfranogol ar gyfer Hwlffordd oedd yn gysylltiedig â’r Afon Cleddau sy’n rhedeg drwy ganol y dref. Gan dalu teyrnged i gyfnod y ‘ref’ tanddaearol gwrth gyfalafol y 90au cynnar, roedd y Diemwnt Du yn ymgorffori pŵer sonig yr afon i greu trac rêf gyda cherddorion lleol yn rhyngweithio gyda’r afon ac wedi’i gymysgu gan y cyfansoddwr electronig Andy Wheddon. Roedd y diweddglo mawreddog yn ddigwyddiad cyhoeddus ysblennydd ddydd Sul 30 Awst 2015 pan deithiodd system sain swnllyd ar gwch i fyny’r afon i ganol y dref.

Dyma film fer sy’n dangos recordiadau lleoliad y cerddorion. Fe’i dangoswyd am y tro cyntaf ar ddiwrnod y digwyddiad ar ‘Daith Fws y Diemwnt Du’. Dilynodd Bws y Diemwnt Du lwybr y Cwch Rêf a stopio mewn nifer o leoliadau ar hyd yr afon ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau byw.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…