Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Siediau Celf

Sied Harlecwin: Pauline Le Britton

Harlequin shed logo 72dpi

Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfer nifer o banelau harlecwin wedi’u paentio yn y Stiwdios Pop up Arlunwyr yn Hwlffordd. Mae’r patrwm harlecwin yn symboleiddio’r syniad o’r Ffŵl a phopeth sy’n guddiedig a’r straeon y mae ef/hi yn eu cario.

Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar Gelf Gwerin a Theithiol, yn benodol cychod camlas wedi’u paentio. Rwy’n hoffi’r syniad o’r cychod sydd wedi’u haddurno’n hardd ac sydd â symbolau a golygfeydd o’u teithiau a’r lleoedd maent wedi eu gweld: Celf Deithiol ar ddŵr.
Paentiwyd y cychod gyda golygfeydd o gestyll, tirweddau, mynyddoedd a blodau. Mae’r rhain yn lleoedd a baentiwyd o gof o luniau yr oeddent wedi’u gweld ar eu teithiau.
Hoffwn ddefnyddio hyn fel man cychwyn ar gyfer y prosiect, a chynnig y cyfle i bawb rannu eu profiadau. Byddwn yn addurno cychod plaster bach a gwneud hwyliau i ddisgrifio ein hanesion a’n teithiau ein hunain. Gellir mynd â’r rhain i ffwrdd, ond wedi i ni blotio’r cwch bach ar fap mawr wedi’i baentio y tu mewn i’r sied, gydag ychydig o nodiadau ar beth mae wedi ei weld yn ei bywyd. Yno y cychwynna’r daith a bydd yn parhau hyd ddiwedd yr wythnos. Arddangosir y map o ffenestri fy stiwdio, i bawb i’w weld wedi’r ŵyl.

Argraff o Hwlffordd: Ruth Sergeant a Gina Hughes

Ruth Sargeant Gina Hughes logo 72dpi

Gan ddefnyddio clai, inc a latecs hylif i greu collage fforensig, yn cofnodi gweadau gwirioneddol y dref a’i phobl.

Gwahoddir chi i ymuno gan roi printiau cledrau llaw a gan gymryd a chofnodi eich argraffiadau eich hun o amgylch y dref. Rhoddir arddangosiadau yn y sied a bydd cyfle i gadw cwmni â’r arlunwyr wrth iddynt fynd hwnt ac yma yn casglu tystiolaeth. Bydd clai hefyd ar gael i chi ei ddefnyddio yn annibynnol. Gobeithiwn y dewch â samplau diddorol yn ôl i ychwanegu at eich casgliad! Bydd arlunydd yn y sied bob amser ac amserlen o amseroedd a lleoliadau pan fydd rhywun yn gweithio yn y dref.

 

Gegin Fach Gelf: penny d jones

penny artsheds logo

Dewch i wneud celf yn y Gymraeg yn y Gegin Gelf – artist gwahanol pob dydd.

Dewch i chwarae a chreu trwy’r Gymraeg yng nghanol Hwlffordd. A dysgu celf rhwng cyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn gwneud pethau i’r gegin a chreu’r gegin eu hun. Croeso i Gymry Cymraeg a dysgwyr Cymraeg.

Delweddau gan: Pauline Le Britton, Gina Hughes, penny d jones.

 

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…