Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Lab Syniadau

ideaslab

Ers lansio fis Chwefror 2016, mae Ideas Lab wedi bod yn gweithio gyda phrosiectau ar raddfa fach i brofi syniadau ar gyfer y celfyddydau ac adfywiad yn Hwlffordd.

Gyda chychwyn da gyda Make 4 – cyfres o weithdai celf addas i deuluoedd ar ddydd Sadwrn ym mis Mawrth, dan arweiniad yr arlunydd Louise Bird – mae’r Lab wedi gweithio gyda 10 prosiect bach, sydd ar gyfnodau amrywiol o ddatblygiad.

Bydd gŵyl Hwlffordd yn croesawu nifer o’r prosiectau hyn. Maent wedi’u cynllunio i newid canfyddiadau am y dref sirol, ymgysylltu pobl yn y celfyddydau a chynyddu dealltwriaeth o beth all celf fod. Bydd Breaking out of the Gallery yn arddangos celf ar strydoedd Hwlffordd. Yn y cyfamser, bydd arlunwyr lleol o stiwdios pop-up Hwlffordd yn byw mewn tair Artshed sydd wedi’u lleoli ar hyd yr afon drwy gydol yr ŵyl.

Mae EPOCH (Empty Property Owners Club Haverfordwest) wedi creu cofrestr o eiddo gwag a’u perchnogion i baratoi ar gyfer digwyddiad a gynllunnir fis Medi. Bydd yn edrych ar ffyrdd o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

Mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys: Sweet sixteen – gwaith celf yn ymgysylltu â, ac yn dathlu pawb fydd yn un ar bymtheg oed yn 2016; Parciau Poced – datblygu a chynnal cyfres o barciau poced; Seren – Gweithdai i greu prototeip cwch fforddiadwy a ellid ei hwylio ar Afon Cleddau ac argraffu Calendr i godi arian ar gyfer Haverfordwest Yarn Bombers.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…