Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Transition Haverfordwest

thbanner Gan ddefnyddio’r gorffennol i ysbrydoli’r dyfodol, mae gan, Transition Haverfordwest genhadaeth i helpu’r dref sirol i gychwyn ar gyfnod newydd o lwyddiant a thwf, gydag economi wedi’i adfywio a’i ail-leoli wrth galon rhwydwaith o gymunedau lleol ffyniannus. Mae Transition Haverfordwest yn anelu i: Greu cyflogaeth leol trwy: ôl-ffitio tai ac adeiladau cymunedol a masnachol presennol i’w gwneud nhw’n gynnes ac ynni effeithlon cynhyrchu mwy o’n hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy cynyddu hunangynhaliaeth o ran bwyd a thrafnidiaeth adeiladu synnwyr cryf o gymuned trwy ddatblygu asedau yn gyfunol: cynlluniau ynni adnewyddadwy adeiladau, gerddi a pherllannau cymunedol
mannau gwyrdd cyhoeddus tai a thrafnidiaeth lleol
gwasanaethau gofal ac iechyd
‘arian cyfredol’ lleol gwyliau a dathliadau cymunedol Mae Transition Haverfordwest yn cael ei reoli gan Grŵp Llywio, gydag aelodau o’r gymuned leol, a phob un yn cynrychioli gwahanol fuddiannau e.e. Bwyd Lleol, Ynni, Amaethyddiaeth sy’n cael ei gefnogi gan y Gymuned, Gwyliau a Dathliadau Cymunedol ayyb. Mae gan y rhwydwaith hanes o brosiectau llwyddiannus, mae manylion am y prosiectau hyn i’w cael ar y wefan: www.transitionhaverfordwest.org.uk O fewn y prosiect hwn bydd Transition Haverfordwest yn:
  • rhwydweithio gyda grwpiau Transition eraill ar draws Cymru a thu hwnt i godi ymwybyddiaeth am y prosiect a’i lwyddiannau
  • helpu i godi ymwybyddiaeth yn lleol am y prosiect a datblygu’r capasiti lleol drwy annog a denu gwirfoddolwyr, a thrwy hynny cefnogi cynaliadwyedd hir dymor y prosiect
  • ymgymryd â phrosiectau celfyddydol i helpu i ail-feddwl ac i ddelweddu’r ffordd y bydd angen i ni fyw yn y dyfodol heb ddibynnu ar danwyddau ffosil
  • ymryd rhan yn y broses gynllunio cymdogaeth wedi’i ysgogi drwy’r Labordy Cydlifiad, i ganolbwyntio ar a datblygu gwyrddio glan yr afon ac yng nghanol y dref
  • ymchwilio i a datblygu cynlluniau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n cysylltu mannau allweddol yn y dref ac ar hyd lan yr afon (cynllun cymdogaeth)
  • ymchwilio i gyllid posib ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar yr afon a sefydlu grŵp cyswllt.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…