Cyngor Sir Penfro
Bydd Swyddog Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Sir Penfro yn rhoi cyngor a chefnogaeth i’r rhaglen drwy:
- cynghori ar arfer celfyddydol enghreifftiol
- arwain a chefnogi comisiynu arfer gorau a rheoli prosiectau artistiaid, penseiri a sefydliadau celfyddydol, gan sicrhau rhagoriaeth celf a rhagoriaeth yn y broses o ymgysylltu â chymunedau
- gweithredu fel cyswllt â gwasanaethau eraill y Cyngor e.e. Adfywio Cymunedol, Cynllunio
- lledaenu canlyniadau a gwersi a ddysgwyd ledled Sir Benfro
Mae gan y Swyddog Datblygu Celfyddydau brofiad sylweddol o gynhyrchu rhaglenni celfyddydau yn y sectorau celfyddydau awdurdod lleol ac annibynnol. Mae hyn wedi cynnwys nodi cyfleoedd a meithrin partneriaethau i ymgorffori creadigrwydd o fewn ymarfer adfywio trwy broses sy’n dod ag artistiaid a phobl ynghyd, ac sy’n annog y defnydd ehangaf posibl o ddychymyg, creadigrwydd a dehongliad.
Our Vision
Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.