Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Civitas

Delwedd: Manylion o Fap Mawr ‘Civitas’: Diwylliant caffi yn Sgwâr Swan a beth am goeden sbesimen fawr? Mae Pound-stretcher yn adeilad allweddol ar bwynt ffocal Stryd y Bont a’r sgwâr.

Cynhaliwyd dwy sesiwn ddiddorol arall ar y Map Mawr yr wythnos ddiwethaf fel rhan o’n rhaglen Hydref o weithdai. Roedd y cyntaf o’r rhain, ‘Civitas’ yn gwahodd aelodau o’r Gymdeithas Ddinesig i ymuno â ni wrth edrych ar ‘botensial’ y dref am ‘welliannau hamdden, diwylliannol a dinesig’. Cynlluniwyd y gweithdy o amgylch taith gerdded fer drwy’r dref ac ar hyd yr afon i gael syniad o’r hyn y gellir ei wneud i wneud defnydd gwell o asedau’r dref sirol ac i ysgogi’r rhaglen ddiwylliannol yn Hwlffordd. Dyma rai o’r prif sylwadau ac awgrymiadau a wnaed;

  • Sut allwn ni wneud defnydd gwell o Sgwâr y Castell?
  • Adnewyddu arwyddion ffasgia hyll ar siopau, yn enwedig y rheiny yn sgwâr y Castell
  • Darparu arwyddion gwell i’r Castell.
  • Mae gormod o adeiladau gwag mewn lleoliadau allweddol ac adeiladau hanesyddol nad ydynt yn cael digon o ddefnydd
  • Anhawster i gerddwyr groesi Sgwâr y Castell
  • Mae angen gwella llwybrau ger yr afon.

Os hoffech rannu eich syniadau ar gyfer datblygu bywyd diwylliannol a chelfyddydol Hwlffordd a mynegi eich barn ar ddyfodol y dref, yna dewch draw i’n sesiwn agored nesaf gydag Artistiaid Sir Benfro ddydd Iau 17 Medi. Mae cyfle pellach i ymgysylltu gyda’r Map Mawr ar ddydd Gwener 25 Medi pan fydd Sarah Goy, uwch ddylunydd trefol yn Nathaniel Lichfield a phartneriaid, a Gordon Gibson yn ymuno â ni.

Mae Nathaniel Lichfield yn ymgynghorwyr cynllunio trefol sydd wedi cael eu penodi i gynnal ymarfer cynllunio mawr ar ran Cyngor Sir Penfro. Mae Sarah a’i chydweithiwr John Cottrell yn gweithio ar hwn.

Mae Gordon Gibson yn gynllunydd trefol a roddodd ddadansoddiad addysgiadol a thaith a sgwrs ysbrydoledig yn Hwlffordd yn dilyn ‘sesiwn agored’ ar y Map Mawr yn ystod lansiad y Lab ym mis Mai. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ar faterion dylunio trefol gyda chymunedau lleol yn rhyngwladol ac yn lleol yn Ne Cymru.

I gael manylion ac amseroedd y rhaglen lawn cliciwch ar ddolen rhaglen wshop Map MAWR wedi’i ddiweddaru 18.8.15

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…