Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Chwilio am y Canol

Mae Cydlifiad yn awyddus i benodi arlunwyr neu gydweithfa o arlunwyr, sydd wedi arfer gweithio mewn proses ac sydd â diddordeb mewn hanesion yn seiliedig ar leoedd, i gynhyrchu gwaith i’w gyhoeddi mewn ffurf aml-rifyn.

Bydd y comisiwn yn digwydd rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 2016 yn Hwlffordd, tref Cyngor Sir Benfro, fel rhan o raglen gelfyddydol ac adfywio 3 mlynedd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Benfro.

Yn hanfodol i fywiogrwydd y dref yw’r bobl hynny sy’n defnyddio’r dref: preswylwyr, siopwyr, gweithwyr ac ymwelwyr. Mae meddylfryd confensiynol yn tybio fod gan dref, neu dylai fod ganddi, ganol tref ond beth ydy canol tref a sut caiff ei ddiffinio?

Mae seico-ddaearyddiaeth yn cyfeirio at amgylchedd daearyddol lleoliad penodol, gan ystyried ei ddylanwad ar y meddwl ac ymddygiad: sut mae lleoedd gwahanol yn gwneud i ni deimlo ac ymddwyn.

Drwy ymgysylltu ag ystod o bobl a rhanddeiliaid yn y dref, mae’r comisiwn yn rhoi cyfle i arlunwyr neu gydweithfa o arlunwyr  archwilio seico-ddaearyddiaethau Hwlffordd, a chreu celfwaith sy’n dal ac yn cyfleu canfyddiadau’r broses ymchwil.

Cynigir ffi gynhwysol o £12,000 ar gyfer y comisiwn a’r costau cynhyrchu. Mae cyllideb ychwanegol o £2000 ar gael pe bydd angen ar gyfer y costau teithio a llety.

Briff llawn ar gael yma

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, dydd Mercher, 29 Mehefin 2016

Cyfweliadau: Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2016.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…