Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Comisiynau

Dros dair blynedd gyntaf y cyllid Syniadau Pobl Lleoedd, Cyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen o gomisiynau artistiaid sy’n cynnwys y gymdeithas wedi creu cyfleoedd i bobl Hwlffordd i weithio gydag artistiaid lleol a ledled y DU. Roedd y rhaglen yn anelu at newid canfyddiadau pobl o Hwlffordd, ehangu dealltwriaeth o’r hyn y gall celf fod ac archwilio sut y gall artistiaid wneud cyfraniad at adfywio. Mae’r comisiynau wedi amrywio o ran cwmpas a maint o raddfa fach a chanolig hyd i un comisiwn cyfalaf ar raddfa fwy. Mae micro-linyn o’r rhaglen gomisiynu hefyd wedi cael ei ddatblygu fel mainc arbrofi ar gyfer syniadau newydd.

Comisiynau Presennol

Chwilio am y Canol

searching-for-the-centre Mae meddwl confensiynol yn rhagdybio bod gan dref neu y dylai tref gael canol, ond beth yw canol tref a sut mae ei ddiffinio? Trwy ymgysylltu ag ystod o bobl a rhanddeiliaid yn y dref, datblygodd yr artist Janetka Platun y prosiect Chwilio am y Canol rhwng mis Medi a Chwefror 2017, gan roi cyfle i ymchwilio i seico-ddaearyddiaeth Hwlffordd a chreu gwaith celf aml-rifyn yn dal ac yn cyfathrebu ei chanfyddiadau. Mae mwy o wybodaeth a manylion am y comisiwn ar gael yma.  

Comisiwn Cyfalaf

IMG_1892 (1)   Yn dilyn cyfweliadau ar 18 Tachwedd 2016, penodwyd Studio Weave y practis celf a phensaernïaeth sydd wedi ennill gwobr RIBA i greu gwaith celf parhaol ac i brofi ffyrdd newydd o weithio ac ailgysylltu pobl, trwy ymgysylltu â’r celfyddydau, yn y broses o adfywio’r dref. Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr gyda’r bwriad o gwblhau’r comisiwn erbyn diwedd mis Hydref 2017. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r comisiwn drwy’r dolenni yma: Cyflwyniad gan Studio Weave

Comisiynau’r Gorffennol

Llwyfan – rhaglen tri diwrnod o gelf gyfoes

platform1 Roedd LLWYFAN yn cyflwyno Hwlffordd fel llwyfan ar gyfer rhaglen o gomisiynau newydd a gweithiau celf sy’n bodoli eisoes gan artistiaid sy’n byw yn ac o gwmpas Sir Benfro. Roedd y rhaglen yn adlewyrchu amrywiaeth a dyfnder  ymarfer celf gyfoes yn y rhanbarth, roedd yn cynnwys ffilm, gosodiad celf a pherfformiad gan artistiaid a oedd gyda’i gilydd yn creu corff o waith a oedd yn ei dro yn gyffrous, pryfoclyd ac ysbrydoledig. Cewch wybod mwy yma.  

Porthmon Sir Benfro

drover cow Yn ystod Gwanwyn/Haf 2016, creodd yr artist a’r gwneuthurwr ffilm sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Karen Ingham, Porthmon Sir Benfro: gosodiad ffilm, a ddangoswyd fel rhan o Wythnos Gŵyl Hwlffordd ym mis Gorffennaf 2016.
Mae Porthmon Sir Benfro yn waith celf, sy’n cynnwys y gymdeithas, ymatebol i safle a symudol sy’n tynnu ar ac yn adlewyrchu ar y cydberthnasau rhwng Hwlffordd a’r ardal wledig ac arfordirol mae’n eu gwasanaethu. – Karen Ingham
Cafodd y gwaith hefyd ei arddangos yn Oriel y Parc, Tyddewi trwy gydol mis Awst, gallwch ei wylio ar sianel Youtube Karen yma.  Os ydych eisiau fersiwn HD sgrin lawn, cysylltwch â Karen trwy flog y prospect: https://studiowestorguk.wordpress.com. Mae llyfr artist, yn cynnwys lluniau llonydd ymchwil ac yn datgelu’r cyd-destun a’r cysyniadau y tu ôl i’r gwaith ar gael i’w weld a’i lawrlwytho yma.

Black Diamond

Black diamond
Mae Black Diamond yn brosiect sy’n cyfuno hanes a cherddoriaeth afon Cleddau Wen i gynhyrchu trac cerddoriaeth ref gyda phobl Hwlffordd
Archwiliodd Serena Korda hanes a mytholeg  afon Cleddau Wen, sy’n llifo trwy Hwlffordd, a gweithiodd gyda cherddorion lleol, a’r cynhyrchydd Andy Wheddon, i gynhyrchu trac ref ar gyfer Hwlffordd. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael yma a gallwch wylio fideo Sharron Harris yn dogfennu’r comisiwn yma.

Comisiynau bach

Technoleg Wyllt

info-literacy-outdoors-e1384718965350 Wedi’i gyflwyno gan bloc mewn cydweithrediad â’r Lab, daeth grŵp amrywiol rhyfeddol o 35 o bobl o feysydd celf, technoleg a’r awyr agored, at ei gilydd ar gyfer Wild Hack cyntaf Cymru ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, 2015. Sefydlwyd Wild Hack Haverfordwest i roi hwb i gysyniad bloc o Dechnoleg Wyllt (ysbrydoli pobl i fynd allan i’r awyr agored gan ddefnyddio celf a thechnoleg yn ddychmygus) ac i ddechrau dyfeisio offer a/neu adnoddau newydd i ysbrydoli pobl i ddefnyddio’r mannau gwyllt gwych sydd ar garreg drws Hwlffordd. Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad Wild Hack ar gael yma.  

Symbylydd stori ar hap Hwlffordd

6-dsc_0276 Symbylydd stori ar hap Hwlffordd Yn y cyfnod yn arwain at lansio’r prosiect ym mis Mai 2015, aeth yr artistiaid Davis & Jones, allan gyda chaffi symudol a phennau marcio, a gwahodd pobl yn Hwlffordd i sgwrsio am eu meddyliau a’u hatgofion o’r dref. Stopiodd hen bobl a phobl ifanc, pobl ar eu gwyliau, pobl ar eu pen eu hunain, pobl mewn grwpiau, siopwyr, gweithwyr, sglefrwyr, teuluoedd, ffrindiau, pobl â chŵn, bysgwyr, pobl â chysylltiadau teuluol, pobl oedd yn byw yn y dref a phobl oedd yn byw gerllaw a chymryd amser i siarad. Defnyddiwyd meddyliau, atgofion, teimladau, gobeithion ac ofnau yr oedd wedi’u rhannu mor hael, at ei gilydd i greu’r Symbylydd stori ar hap Hwlffordd, y gallwch ei weld yma.

Fflagiau Gwyliau

p1020465 Yn ystod mis Mawrth 2015, cynhaliodd A &E Adventures cwmni creadigol ysbrydoledig lleol, wedi’i leoli yn Nhalbenni ger Little Haven, cyfres o weithdai cynllunio gyda saith dosbarth Blwyddyn 5 a 6 o ysgolion cynradd Hwlffordd i ysbrydoli’r broses o greu cyfres o fflagiau gwyliau i lansio’r prosiect Confluence. Mae pob fflag wedi ei seilio ar ddarn gwahanol o afon Cleddau wrth iddi lifo trwy’r dref sirol. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael yma.  

Lab Syniadau

ideaslab Sefydlwyd y Lab Syniadau ddechrau 2016, mae’n darparu mainc arbrofi ar gyfer prosiectau adfywio a celfyddydol yn Hwlffordd. Trwy sesiynau galw heibio misol gwahoddir unigolion a sefydliadau i gyflwyno egin syniad i weld a allwn wneud iddo ddigwydd trwy weithio gyda’n gilydd. Mae dros ddeg o fentrau ar raddfa fach wedi cael eu cefnogi hyd yma. Cewch wybod mwy yma.   Credyd Delweddau (o’r brig): Janetka Platun, Sean Vicary, Chris Evans, Karen Ingham, Chris Evans, bloc, Davis & Jones, Guy Norman, Heidi Baker.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…