Celf ac adfywio yn Hwlffordd

MAKE 4!

Dros gyfnod o bedair wythnos ym mis Mawrth / Ebrill 2016, bu’r arlunydd lleol Louise Bird yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio ar ddydd Sadwrn yn The Lab, a oedd yn gyfle i deuluoedd greu ac arbrofi â gwneud pethau gyda’i gilydd. Bryd hynny roedd Louise yn gweithio o Stiwdios Pop-Up Hwlffordd yng Nghanolfan Siopa Glan yr Afon.

Datblygodd Louise y sesiynau drwy’r Lab Syniadau, a’u seilio ar bedair thema wahanol gan ddefnyddio deunyddiau sydd ar gael mewn unrhyw gartref, megis deunyddiau wedi’u hailgylchu a thecstilau bob dydd. Roedd y sesiynau wedi’u cynllunio i gael eu mwynhau gan y rhai â phrofiad celf yn ogystal â’r rhai nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath.

Pethau Gwlanog: Cyfle i wneud olwyn gweu, a dysgu ffordd gyflym a hawdd i wneud tiwb wedi’i weu.

Llyfrau Papur a Lluniau: Dysgu sut i blygu llyfrau a blychau o bob maint a’u llenwi â gwaith collage, darluniau a storïau:

Tai Hwlffordd: Cyfle i weld model wrth raddfa o Hwlffordd a gafodd ei greu’n ddiweddar fel rhan o raglen The Lab.

Offer, Gweadau a Phaent: Dyfeisio a chreu set o offer a stensiliau i’w defnyddio â phaent, ac archwilio’r patrymau a’r printiau y gellir eu creu ag eitemau bob dydd.

Roedd y teuluoedd wedi cymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd, rhai’n gweithio gyda’i gilydd mewn grwpiau mwy, a rhai rhieni yn cynnig cefnogaeth ar lafar, tra bo rhai oedolion wedi dod draw heb blant i gymryd rhan.

Roedd y 25 a oedd wedi cymryd rhan yn Sesiynau Make 4! yn eithriadol o falch â’u cyfraniad a’r modd y cyflwynwyd Digwyddiadau Make 4! yn gyffredinol, ac roeddent yn dymuno gweld mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â chelf fel hyn ar gyfer teuluoedd yn Hwlffordd.

Cawsom amser gwych! Plîs dewch draw i’m hysgol i, Redhill Prep.
Cyfle gwych – Diolch! Beth am greu maes parcio â gardd am ei ben ger y castell yn lle’r maes parcio aml-lawr.

Cyflwynodd y sesiynau lawer o bobl i’r cysyniad o gelf fel modd i adfywio fel y dywedodd Louise:

Mae’n ymddangos bod y cysyniad o ddefnyddio celf i adfywio a gwella amodau ar gyfer busnesau a phobl Hwlffordd yn rhywbeth newydd iawn i’r bobl a ddaeth i’r digwyddiadau. Cafodd ei drafod yn frwdfrydig gan bawb.

Drwy gyflwyno plant ac oedolion i’r cysyniad o gelf ac adfywiad, a pha mor hawdd yw creu celf gydag eitemau bob dydd yn y cartref, mae sesiynau Make 4! nid yn unig wedi cael adborth cadarnhaol ond mae wedi gweithio tuag at annog pobl yn Hwlffordd i feddwl am y posibiliadau a’r hyn y gall celf fod.

 

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…