Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Comisiwn Shared Space Ahead

Mae Cydlifiad yn gwahodd ceisiadau gan arlunwyr gydag un ai arfer celfyddydol perfformiadol neu gyfunol i ymgymryd â chomisiwn i greu a chynhyrchu gwaith celf yn y gymdeithas ac mewn safle penodol yn Hwlffordd. Ymateba’r comisiwn, sy’n rhan o raglen tair blynedd i brofi modelau newydd o ailgynhyrchu a chydweithio trwy’r celfyddydau, yn uniongyrchol i’r syniad o sut y gall pobl a cherbydau lywio a rhannu lle cyhoeddus yng nghanol Hwlffordd.

Mae Cydlifiad yn gydweithrediad creadigol rhwng PLANED, spacetocreate, iDeA Architects, Transition Haverfordwest a Chyngor Sir Penfro sydd wedi derbyn cyllid gan Syniadau: Pobl: Lleoedd, menter celfyddydau strategol ac adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Cydlifiad yn creu a phrofi model newydd a llawn dychymyg o adfywio canol trefi, ymgysylltu â’r gymdeithas i ysbrydoli a siapio’r broses o gynllunio, dylunio ac adfywiad trefol yn Hwlffordd.

Mae Shared space ahead yn rhoi cyfle i ymgysylltu â’r gymuned yn y broses adfywio mewn lle cyhoeddus pwysig yn Hwlffordd. Y safle ar gyfer y comisiwn yw Sgwâr y Castell. Er ymdrechion i wella adeiladwaith trefol y sgwâr, parha materion allweddol fel llif parhaus o gerbydau sy’n lliniaru yn erbyn ei swyn fel lle cyhoeddus. Er bod gan y sgwâr osodiad dinesig, wedi’i amgylchynu gan adeiladau o ansawdd pensaernïol cain, mae eto i wireddu ei botensial o gael synnwyr cofiadwy o le.

Gan gymryd teitl y comisiwn fel trosiad, bydd yr arlunydd/ymarferydd yn ymgolli o fewn Hwlffordd ac yn gweithio ar y cyd gyda’i phobl i gynhyrchu gwaith celf, sydd hefyd yn ymateb pryfoclyd i’r pwnc.

Mae’r comisiwn yn ymestyn yr ymgynghoriad a ddechreuwyd yn y sesiynau ‘Map Mawr’. Bwriedir arddangos trwy ddigwyddiad dros dro sut y gallai lle cyhoeddus yn Hwlffordd gael ei lywio fel ‘lle a rennir’, ac yn y pen draw, sut gall yr agwedd hon gael ei hymestyn trwy ganol y dref hynafol yn y dyfodol.

Cynigir ffi gynhwysol o £22,000 ar gyfer y comisiwn.

Am grynodeb llawn, cysylltwch â: kate.wood@pembrokeshire.gov.uk neu lawrlwytho yma:

sharedspaceahead-final19-10-15

castle-square-site

shared-space-ahead-castle-square-views

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2015
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Gwener, 08 Ionawr 2016

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…