Celf ac adfywio yn Hwlffordd

Cynllunio rhaglen yr haf/yr hydref 2015

Mae Serena Korda, yr artist cyntaf i gael ei chomisiynu gan Cydlifiad yn aros yn Hwlffordd rhwng 5 a 15 Mehefin 2015 i gwmpasu ei phrosiect Deimwnt Du. Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle i Serena fyfyrio ar y dref a’i hafon ac yn fodd i gyfarfod â phobl allweddol a all rannu eu gwybodaeth am y themâu y bydd y comisiwn yn eu harchwilio. Bydd modd creu cysylltiadau hefyd gyda phobl a sefydliadau a allai gyfrannu at wireddu ei gweledigaeth ar gyfer gwaith newydd safle-benodol.

Bydd Serena yn dychwelyd yn ddiweddarach yn ystod yr haf ar ymweliad hwy pan fydd cyfleodd i ddysgu mwy am ei gwaith celf a chymryd rhan mewn nifer o ffyrdd wrth wneud a pherfformio’r gwaith gorffenedig.

the-lab-launch-03

Delwedd: Darlun gan Jack Wheatley o’r gweithdy ‘Darlunio ar yr Afon’

Mae rhaglen haf a hydref 2015 yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd. Bydd yn cynnwys amryw o gyfleodd i lywio’r gwaith mae ymgynghorwyr Cyngor Sir Benfro wedi ymgymryd ag ef i baratoi uwch gynllun newydd ar gyfer ein tref sirol. Bydd y rhaglen yn cynnwys:

  • cyfleoedd pellach i gydweithio â iDeA Architects ar y Cynllun Mawr
  • cyfres o deithiau cerdded thematig
  • rhaglen o weithdai creadigol yn y Lab fydd yn arwain at ddigwyddiad cyfranogol a dathliad yn ystod hanner tymor yr hydref
  • sgyrsiau gan artistiaid, yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau/sgyrsiau/sgrinio, yn rhan o’r comisiwn Serena Korda
  • digwyddiad gofod agored i ystyried “pa wahaniaeth all artistiaid eu gwneud i faes adfywio?”
  • gorffen y briffiau a gwahodd cyflwyniadau i gomisiynu gwaith 2 artist newydd.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…