Celf ac adfywio yn Hwlffordd

spacetocreate

River of lights: llun gan Jenny Blackmore

Cwmni buddiannau cymunedol yw spacetocreate, sy’n gweithio o ganolfan ym Mhrosiect Ieuenctid a Chymunedol Garth, yn ardal Ward Garth sy’n dod o dan glwstwr Cymunedau’n Gyntaf Sir Benfro.

Guy Norman a Pip Lewis yw sylfaenwyr a chyd-gyfarwyddwyr y cwmni. Mae’r ddau yn darparu cyfeiriad artistig a chyfoeth o sgiliau ategol a phrofiad sy’n rhychwantu datblygu cymunedol a’r celfyddydau.

Sefydlwyd spacetocreate yn 2007, y nod yw gwella mynediad at ac ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau gweledol yn Sir Benfro. Dros y naw mlynedd diwethaf mae’r sefydliad wedi dylunio a chyflwyno ystod amrywiol o brosiectau celfyddydau gweledol cyfranogol proffesiynol, sydd wedi grymuso cymunedau a methrin hyder a hunan-barch y cyfranogwyr, gan arwain at fuddion i’r unigolion ac i bawb yn y gymdeithas.

O 2011, gyda chefnogaeth grŵp cynghori, dechreuodd spacetocreate ganolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno takingpartwest, rhaglen beilot o gelfyddydau gweledol cyfranogol yn Hwlffordd. Roedd y rhaglen yn cynnwys mwy na 1,000 o gyfranogwyr a chyfanswm cynulleidfa o thua 4,000 o bobl, a denodd gwerth £35,000 o gyllid ar gyfer 20 o brosiectau celfyddydau cymunedol.

Agorodd y peilot y drws i’r posibilrwydd o ffyrdd mwy arloesol ac arbrofol o weithio, yn ogystal â llwyddo i ennyn cefnogaeth gymunedol i rôl y celfyddydau mewn adfywio.

Mae Cydlifiad yn gyfle i adeiladu ar y sylfeini hyn, gan godi dyheadau a datblygu’r capasiti i brofi ffyrdd newydd arbrofol o weithio, meithrin cydweithio, wedi’i ysbrydoli gan ymarfer gyfoes ar draws y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn dod ag:

  • arbenigedd mewn dyfeisio a chyflwyno prosiectau celfyddydau gweledol yn y gymuned gan gynnwys profiad o weithio ag artistiaid proffesiynol gydag amrywiaeth o sgiliau arbenigol
  • cysylltiadau helaeth a hanes o weithio gydag ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol, yn ogystal ag mewn cymunedau sy’n dioddef o amddifadedd lluosog
  • profiad o bartneriaeth aml-asiantaeth yn gweithio ar amrywiaeth o wahanol raddfeydd
  • arbenigedd rheoli strategol gan gynnwys brofiad o godi a rheoli cronfeydd yn llwyddiannus o amrywiol ffynonellau gan gynnwys Ewrop ac ymddiriedolaethau a sefydliadau Elusennol
  • gan gyd-weithio’n agos ag iDeA Architects, bydd spacetocreate yn darparu cyfeiriad creadigol cyffredinol i Cydlifiad, yn ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid eraill mewn prosesau arbrofol i ail-ddychmygu’r dref, gan ddefnyddio ymarfer gorau yn y Celfyddydau, Pensaerniaeth a dylunio trefol.

Our Vision

Our vision is that in ten years’ time the ancient port of Haverfordwest will have been re-imagined as a vibrant and distinctive market town, reconnected with its river, in full flow and charged by the creativity of its people.

Find us on Facebook

See our work by projects…

See our work by collaborators…